Yr wythnos yma welwn arwerthiant o tap demo Jimmy Hendrix, maen debyg aeth Jimmy i’w gymydog i fenthyg siwgr a llaeth a fel anrheg am ei haelioni cafodd y cymydog casét demo o caneuon. Maen debyg bydd y casét yn gwerthu rhwng £50000 a £100000. Dim yn fol am bach o siwgr a llaeth rwy’n siŵr, ond nid y cael ydy’r peth pwysig ond y cynnwys.
Mae gyda fi tua 200 o hen dapiau casét yn y to. Casgliad fy mam ydynt ond yn anffodus does gyda fi ddim y galon i cael gwared ohonynt. Nawr y broblem mawr sy gyda fi ydy beth i wneud gyda nhw. Dwi i ddim yn meddwl fod yna farchnad ar ebay amdanynt a dwi i ddim eisiau rhoi nhw i rhywun am ddim i weld nhw mewn bin ar ddiwedd sêl cyst car. Nawr y broblem mawr sy gyda fi ydy beth sy mynd i ddigwydd i’n traddodiad ar caneuon yma pan fydd y peiriant casét olaf wedi Tori. Yn y 70au ar 80au prif ffynhonell cerddoriaeth Cymraeg oedd ar ffurf tap, dim ond cerddorion oedd yn debygol o werthu fwy na dwy ful oedd byth yn creu record hir. Y peth da am yr hen gasét oedd yn gallu i wrando ar eich cerddoriaeth yn y car.
Y broblem mawr gyda’r casét oedd y faith ei bod yn cael eu dinistrio mor hawdd a peth da ydy’r datblygiad i’r cryno ddisg a nawr i gerddoriaeth electronig ond beth am yr hen gasét? Beth am y trysor sy wedi cael eu storio arnynt.
Mae rhaid i fi ddweud dim fy nhant cerddorol fi ydy Doreen Lewis ond mae e’n bwysig cadw copi o’r gerddoriaeth yma. Pan dwi i’n clywed llaid Doreen Lewis y dyddiau yma mae’n hel atgofion o fod mewn Austin 1300 fy mam a clywed fy mam yn siarad gyda Avril am pa mor “Prowd” oedd tad Doreen am ei ferch.
Dwi i’n siŵr bod yna llyfrgell cerddoriaeth da gyda’r BBC ond yn anffodus dydy’r cerddoriaeth ddim ar gael ar lein.
Rhaid i fi ddweud hoffwn weld fwy o gerddoriaeth Cymraeg am ddim ar y we, y gwir ydy erbyn hyn mae mwyafrif ohono yn cael ei sybsideiddio gyda ni trwy S4C yn y lle cyntaf
Yn y blog nesaf byddaf yn ceisio Trosglwyddo Cerddoriaeth o Caset i Gyfrifiadur.