Blog Cyntaf

Helo Croeso i Flog Mathew Mathias Athro TGCh a Chydlynydd sgiliau meddwl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

 

 Helo byd!

 

Dros y wythnosau diwethaf dw i wedi bod yn cyfathrebu gyda staff yr ysgol trwy e bost.  Dydy hyn ddim yn berffaith am ddau reswm.  Yn gyntaf dim pawb sy’n darllen eu e-byst ac yn ail dydy rhaglen e-bost yr ysgol yn gadael anfon e-byst HTML (lluniau ac animeiddio) Rydw i’n bwriadu cadw blaen gyda hyn a hefyd llwytho’r negeseuon ar y blog yma.

 

Pam Blogio?

 

Mae blog yn arf da o archifo eich meddwl, trosglwyddo syniadau a hefyd trosglwyddo deunydd electronig.

 

Y gwir ydy bod ein disgyblion yn byw yn y 21 ganrif ac os rydym eisiau cyfathrebu gyda nhw mae angen i ni ddefnyddio yn yr un iaith a nhw 🙂

 

Mae creu blog fel hyn yn hawdd.  Ewch i WordPress.com, cofrestrwch ac yna dechreuwch ysgrifennu.

 

Ar hyn o bryd does dim digon o adnoddau Cymraeg ar gael ar y we felly mae e’n ddyletswydd arnom ni greu cynnwys diddorol.

 

Beth am gyhoeddi eich cerddi ar y blog, rhyddhau pennod o’ch nofel newydd, dangos eich lluniau gwyliau (o fewn rheswm) neu ysgrifennu am eich diddordebau.

 

Un peth pwysig i gofio os yr ydych yn bwriadu cyhoeddu blog ydy cofio eich bod chi nawr yn troi o fod yn berson preifat i berson cyhoeddus.  Cofiwch dim ond cyhoeddi pethau yr ydych chi’n fodlon i’r plant, llywodraethwyr a rhieni ddarllen amdano.

 

Yn olaf,  Rydyn ni gyd eisiau i bob gair a bob brawddeg fod yn gywir ond mae rhaid i flog fod yn rhywbeth digymell ac oherwydd hyn bydd yna ambell i gamgymeriad. Cofiwch fod camgymeriadau yn dystiolaeth o iaith byw!

 

 

TDN (Tan Dro Nesaf ) neu TTFN

 

Mathew